Roedd y Cyngor Iechyd Cymuned yn bresennol yng nghyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddydd Iau lle bu trafodaethau cychwynnol am ddyfodol gwasanaethau plant. Mae’r CIC wedi craffu ar nifer o newidiadau dadleuol i wasanaethau yn y blynyddoedd diwethaf gan ddechrau gyda dileu gofal pediatrig cleifion mewnol yn Llwynhelyg yn 2014. Dywedodd Cadeirydd y CIC Mansell Bennett: “Rydym yn falch o weld bod y Bwrdd Iechyd yn edrych ar ddod â threfniadau dros dro olynol i ben ac yn mynd i ymgynghori â’r cyhoedd ar y tri opsiwn ar gyfer gwasanaethau pediatrig hyd nes y bydd ysbyty newydd yn cael ei adeiladu. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i bobl a faint o bryder a rhwystredigaeth sydd wedi’i deimlo gan rai sy’n teimlo eu bod wedi’u hynysu oddi wrth ofal.” Aeth ymlaen i ddweud: “Rydym yn deall bod gan y Bwrdd Iechyd anawsterau staffio mawr, a bod diogelwch clinigol yn hollbwysig. Fodd bynnag, rhaid deall anghenion pobl leol a gwrando ar eu barn.” Mae gan y CIC rôl statudol o ran sicrhau bod ymgysylltiad cyhoeddus o ansawdd da yn digwydd pan fydd cyrff y GIG am wneud newidiadau i wasanaethau. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pobl yn gallu dweud eu dweud wrth i gynlluniau ddod yn gliriach